26/01/2026
It is nearly time for the launch of our Lent Course for 2026 – from pancakes to palm crosses! Join us on a journey around all six of our stunning cathedrals as we explore faith and pilgrimage throughout Lent. All materials will be available to download from our website on 30/01/26 https://www.churchinwales.org.uk/en/evangelism/lent-2026-from-pancakes-to-palm-crosses/
This is a bilingual course designed to be completed in study groups, with discussion questions and videos provided, but it can also be completed alone. Each video is 10 minutes long, and provides discussion questions for a study group session that will last a recommended time of one hour. We hope you enjoy this course and use it to draw closer to God during this season of reflection!
Programme:
Bangor – Preparation
St Davids – Persistence
Brecon – Penitence
Llandaff – Praise
Newport – Passion
St Asaph – Palm Sunday
Epilogue – Easter Day
Made in collaboration with the Cathedral Deans, and written by the Very Revd Ian Black, Dean of Newport Cathedral.
Mae bron yn amser lansio ein Cwrs Grawys ar gyfer 2026 – o grempogau i groesau palmwydd! Ymunwch â ni ar daith o amgylch ein chwe chadeirlan syfrdanol wrth i ni archwilio ffydd a phererindod drwy gydol y Grawys. Bydd yr holl ddeunyddiau ar gael i'w lawrlwytho o'n gwefan ar 30/01/26 https://www.churchinwales.org.uk/cy/evangelism/lent-2026-from-pancakes-to-palm-crosses/
Mae hwn yn gwrs dwyieithog wedi'i gynllunio i'w gwblhau mewn grwpiau astudio, gyda chwestiynau trafod a fideos yn cael eu darparu, ond gellir ei gwblhau ar eich pen eich hun hefyd. Mae pob fideo yn 10 munud o hyd, ac mae'n darparu cwestiynau trafod ar gyfer sesiwn grŵp astudio a fydd yn para amser argymelledig o awr. Gobeithiwn y byddwch yn mwynhau'r cwrs hwn ac yn ei ddefnyddio i nesáu at Dduw yn ystod y tymor myfyrio hwn!
Rhaglen:
Bangor – Paratoi
Tyddewi – Dyfalbarhad
Aberhonddu – Edifeirwch
Llandaf – Moliant
Casnewydd – Y Dioddefaint
Llanelwy – Sul y Blodau
Epilog – Sul y Pasg
Wedi'i wneud mewn cydweithrediad â Deoniaid y Cadeirlannau, ac wedi'i ysgrifennu gan y Parchedig Ian Black, Deon Cadeirlan Casnewydd.