Capel Trefnant

Directions

Capel Trefnant Information on services and activities in Capel Trefnant.

Mr Bob Morris, Penygroes oedd yn arwain ein gwasanaeth yng Nghapel Trefnant y bore ‘ma. Diolch iddo am y fendith.  “Yr h...
25/10/2026

Mr Bob Morris, Penygroes oedd yn arwain ein gwasanaeth yng Nghapel Trefnant y bore ‘ma. Diolch iddo am y fendith.
“Yr hwn sydd ganddo glustiau, gwrandawed.”
Disgwylir Y Parchedig Ifor ap Gwilym, Abergele atom y Sul nesaf.

Diolch i’r Parchedig Carwyn Siddall, Llanuwchllyn am arwain ein wasanaeth Diolchgarwch yng Nghapel Trefnant heno. Cawsom...
16/10/2026

Diolch i’r Parchedig Carwyn Siddall, Llanuwchllyn am arwain ein wasanaeth Diolchgarwch yng Nghapel Trefnant heno. Cawsom cyfle i gymdeithasu dros swper cynnil wedi’r oedfa.
Diolch i bawb am paratoi bwyd, am weini ac am addurno’r Capel yn hardd.
“O Arglwydd, ein Iôr, mor ardderchog yw dy enw ar yr holl ddaear.”

Cyfarfod Gweddi bendithiol iawn heno yng Nghapel Trefnant o dan arweiniad Cathrin, Tudor, Eifion ac Elisabeth.       Rho...
15/10/2026

Cyfarfod Gweddi bendithiol iawn heno yng Nghapel Trefnant o dan arweiniad Cathrin, Tudor, Eifion ac Elisabeth.
Rhoddwn iti foliant glân,
diolch, Arglwydd, yw ein cân,
clod a mawl a fo i ti
am gofio’r byd eleni.
Mae Oedfa Diolchgarwch nos yfory Dydd Gwener 16 Hydref am 6.30yh gyda’r Parchedig Carwyn Siddall yn arwain. Croeso cynnes i bawb.

GWASANAETHAU DIOLCHGARWCH 🌾DYDD SUL 11 HYDREF   Cyfarfod Gweddi 10ybNOS IAU 15 HYDREF   Cyfarfod Gweddi 7yhNOS WENER 16 ...
09/10/2026

GWASANAETHAU DIOLCHGARWCH 🌾

DYDD SUL 11 HYDREF
Cyfarfod Gweddi 10yb
NOS IAU 15 HYDREF
Cyfarfod Gweddi 7yh
NOS WENER 16 HYDREF
Oedfa o dan arweiniad Y Parchedig Carwyn Siddall, Llanuwchlyn 6.30yh gyda swper cynnil i ddilyn.
Casgliad at Cymorth Cristnogol
Croeso cynnes i bawb 💐

Gymanfa Ganu ardderchog neithiwr yng Nghapel Mynydd Seion, Abergele gyda Trystan Lewis yn arwain a Christopher Enston wr...
05/10/2026

Gymanfa Ganu ardderchog neithiwr yng Nghapel Mynydd Seion, Abergele gyda Trystan Lewis yn arwain a Christopher Enston wrth yr organ. Yr Unawdydd oedd Richard Rees o Machynlleth.
Yr elw at Gôr Tremeirchion. Roedd hi’n hyfryd i ganu y dôn Tremeirchion gan Alun Vaughan Jones, Tad i Mair Dowell.

Hyfryd i groesawu Y Parchedig Eric Jones i Gapel Trefnant y bore ‘ma. Diolch am ei wasanaeth ac am ei gwmni .     “ Yr A...
04/10/2026

Hyfryd i groesawu Y Parchedig Eric Jones i Gapel Trefnant y bore ‘ma. Diolch am ei wasanaeth ac am ei gwmni .
“ Yr Arglwydd yw fy Mugail
ni bydd eisiau arnaf “
Y Sul nesaf fydd Cyfarfod Gweddi Diolchgarwch am y chynhaeaf am 10yb.

Prynhawn hyfryd yng Nghapel Trefnant heddiw. Cododd £530 hyd yn hyn at MacMillan. Diolch i bawb am y gefnogaeth a rhoddi...
30/09/2026

Prynhawn hyfryd yng Nghapel Trefnant heddiw. Cododd £530 hyd yn hyn at MacMillan. Diolch i bawb am y gefnogaeth a rhoddion hael 💚💚

Cofiwch am ein prynhawn coffi Macmillan yng Nghapel Trefnant yfory Dydd Mercher 30 Medi am 2 tan 4. Croeso cynnes i bawb...
29/09/2026

Cofiwch am ein prynhawn coffi Macmillan yng Nghapel Trefnant yfory Dydd Mercher 30 Medi am 2 tan 4. Croeso cynnes i bawb ☕️🍰

Diolch i Meurig Edwards am ei wasanaeth bendithiol yng Nghapel Trefnant y bore ‘ma      Diolch i Dduw am y gyfle i ddod ...
27/09/2026

Diolch i Meurig Edwards am ei wasanaeth bendithiol yng Nghapel Trefnant y bore ‘ma
Diolch i Dduw am y gyfle i ddod i fewn ei Dŷ Sanctaidd.
Edrychwn ymlaen i groesawu Y Parchedig Eric Jones i Gapel Trefnant y Sul nesaf.

Mae Capel Trefnant yn gefnogi Banc Bwyd Dinbych. Diolch i bawb am gyfrannu yn gyson 🙏Roedd hi’n hyfryd derbyn blodau y b...
23/09/2026

Mae Capel Trefnant yn gefnogi Banc Bwyd Dinbych. Diolch i bawb am gyfrannu yn gyson 🙏
Roedd hi’n hyfryd derbyn blodau y bore’ ma gan y Gwirfoddolwyr, Dewi, Clwyd a Marc.💐Diolch i’r holl Gwirfoddolwyr am eu waith arbennig 😊

Address

Capel Trefnant, Trefnant
Denbigh

Website

Alerts

Be the first to know and let us send you an email when Capel Trefnant posts news and promotions. Your email address will not be used for any other purpose, and you can unsubscribe at any time.

Shortcuts

Share