Capel Noddfa Caernarfon

Capel Noddfa Caernarfon Capel Noddfa, Canolfan Noddfa, Cil Peblig, Caernarfon Eglwys Gymunedol wedi ei lleoli yng Nghanolfan Noddfa, Peblig, Caernarfon. Beth sydd yn mynd ymlaen?

Rydym yn eglwys fywiog, anffurfiol a chroeswgar, sy'n gwasanaethu yn yr ardal. Oedfa ac Ysgol Sul Pob Sul. Oedfa deulu unwaith y mis. Dathliadau a diwrnodau arbennig. Clybiau plant a phobl ifanc. Gwasanaeth cyngor a chymorth, materion budd-daliadau, dyledion. Cynlluniau Chwarae. Dewch draw i gyfarfod Mererid neu codwch y ffon 01286 672257.

Ma hi bron yn wyliau Haf sy'n golygu bod hi bron yn amser ar gyfer Cynllun Chwarae Eglwys Noddfa. Mi fydd y Cynllun ymla...
13/07/2026

Ma hi bron yn wyliau Haf sy'n golygu bod hi bron yn amser ar gyfer Cynllun Chwarae Eglwys Noddfa. Mi fydd y Cynllun ymlaen yn ystod pythefnos gynta'r gwyliau. Sesiwn cofrestru Dydd Mercher yma 5:30-6:00.

Tydy hi ddim cweit yn amser Cynllun Chwarae Haf Eglwys Noddfa eto! Ond mi fydd yna brynhawn hwyl i'r teulu yn cael ei gy...
20/05/2026

Tydy hi ddim cweit yn amser Cynllun Chwarae Haf Eglwys Noddfa eto! Ond mi fydd yna brynhawn hwyl i'r teulu yn cael ei gynnal gan griw y Cynllun Chwarae Dydd Mawrth nesaf 26 Mai rhwng 1-3 o'r gloch. Croeso cynnes i bawb o bob oed!
It's not quite time for the summer playscheme, but there will be a Family Fun Afternoon this Tuesday 26 May 1-3. All welcome!
Noddfa CaernarfonDewi Jones - Peblig, Caernarfon

Te Bach yn Noddfa Dydd Iau 21 Mai am 2 o'r gloch. Mae'r Te Bach yn rhan o Noddfa yn dathlu 70 oed a cofio am Sister Emil...
13/05/2026

Te Bach yn Noddfa Dydd Iau 21 Mai am 2 o'r gloch. Mae'r Te Bach yn rhan o Noddfa yn dathlu 70 oed a cofio am Sister Emily wnaeth sefydlu Noddfa. Onibai am Sister Emily, fasa Noddfa ddim yma heddiw! Felly dowch draw i Noddfa wythnos nesaf i rannu atgofion a storis am Noddfa ar hyd y blynyddoedd. Croeso cynnes i bawb - ond plis gadewch i Mererid neu Dewi wybod os yda chi'n gallu dod er mwyn i ni neud yn siwr fod ganddo ni ddigon o fwyd i bawb! Does yna ddim tal am y te, ond mi fyddwn ni'n neud casgliad ar gyfer Cymorth Cristnogol.

Eglwys Bresbyteraidd Cymru - The Presbyterian Church of WalesNoddfa CaernarfonDewi Jones - Peblig, Caernarfon

Mae hi bron yn Wyliau Pasg sy'n golygu y bydd Cynllun Chwarae Pasg Eglwys Noddfa; 'Mwy na Wy' yn digwydd wythnos nesaf. ...
25/03/2026

Mae hi bron yn Wyliau Pasg sy'n golygu y bydd Cynllun Chwarae Pasg Eglwys Noddfa; 'Mwy na Wy' yn digwydd wythnos nesaf.
Dydd Mawrth - Dydd Iau. Sesiwn cofrestru yn Noddfa HEDDIW 5:15-5:45.

Blwyddyn Newydd Dda o Eglwys Noddfa!Ryda ni wedi bod braidd yn ddistaw yn fa'ma yn ddiweddar.OND da ni dal yma!Ryda ni'n...
22/01/2026

Blwyddyn Newydd Dda o Eglwys Noddfa!
Ryda ni wedi bod braidd yn ddistaw yn fa'ma yn ddiweddar.
OND da ni dal yma!
Ryda ni'n cynnal gwasanaeth neu weithgaredd bob prynhawn Dydd Sul am 3 o'r gloch.
Sul yma mae ganddo ni Sul Teulu ar thema Santes Dwynwen; llawer o weithgareddau hwyliog i bawb o bob oed!
Dewch draw i ymuno efo ni - croeso cynnes i aelodau newydd đŸ˜€

Eglwys Bresbyteraidd Cymru - The Presbyterian Church of WalesDigwyddiadau CaernarfonNoddfa Caernarfon

Address

Canolfan Noddfa
Caernarfon
LL552RS

Telephone

+441286672257

Website

Alerts

Be the first to know and let us send you an email when Capel Noddfa Caernarfon posts news and promotions. Your email address will not be used for any other purpose, and you can unsubscribe at any time.

Shortcuts

Share