Caersalem Caernarfon

Caersalem Caernarfon Adnabod, Addoli a Dilyn Iesu a'i gyflwyno i eraill

Gwasanaeth: 10yb bob dydd Sul, croeso i ffrindiau newydd, teuluoedd a phlant

Mae tri grŵp cymuned yn cyfarfod ar nos Fawrth ac un yn cyfarfod yn ystod y dydd ar ddydd Iau - cysylltwch os hoffech ymuno ag un.

07/09/2026

Mae ofn yn gallu troi posibilrwydd yn sicrwydd — a chymydog yn elyn.

Dyna dacteg Pharo yn Exodus 1: rhannu pobl yn “ni” a “nhw”, hyrwyddo conspiracy theory, ac yna defnyddio’r ofn i gyfiawnhau casineb.

Mae’r un ysbryd yn dal ar waith heddiw. Os ydym yn beio pobl sy’n wahanol i ni er mwyn amddiffyn yr “hen Wlad Gristnogol”, nid sefyll dros Grist ydym ni. Cario ysbryd Pharo ydym ni.

06/09/2026

Pan mae'r hen fyd wedi mynd (Exodus 1:6-14) gyda Rhys Llwyd

Bore Sul 6 Medi am 10 o’r gloch, bydd Rhys yn agor ein cyfres newydd drwy lyfr Exodus gyda’r neges: “Pan mae’r hen fyd w...
04/09/2026

Bore Sul 6 Medi am 10 o’r gloch, bydd Rhys yn agor ein cyfres newydd drwy lyfr Exodus gyda’r neges: “Pan mae’r hen fyd wedi mynd”.

🎶 Rhodri ac Elin fydd yn arwain yr addoliad
🧒 Gwaith Plant ar gael
🍞 Byddwn hefyd yn dathlu Swper yr Arglwydd

Croeso cynnes i bawb — ffrindiau hen a newydd. Ond cofiwch fod 1/2 Marathon Caernarfon ymlaen ddydd Sul felly efallai bydd angen parcio ychydig yn bellach o'r capel na'r hyn sy'n arferol.

Blas o'r neges:
Mae Exodus yn dechrau nid gyda’r Môr Coch yn agor, ond gyda diwedd cyfnod: mae Joseff wedi marw, y byd wedi newid, ac Israel yn wynebu gormes. Byddwn yn gweld bod ffydd yn ein galw i wynebu realiti’n onest, ond i wrthod yr ofn sy’n troi cymdogion yn elynion, ac i ymddiried nad diwedd y bennod yw diwedd y stori. Mae Joseff wedi marw, ond mae cyfamod Duw yn dal yn fyw. Byddwn yn ystyried her hynny i ni heddiw.

Hefyd, am 7.00pm bydd yna noson Codi Mawl yn Caersalem sef noson o weddi ac addoliad ar y cyd gyda rhai o eglwysi eraill yr ardal. Paned o 6.30 ymlaen.

03/09/2026

Gair gan Parch. Hannah - ✨ DYDD SUL = DAN NI’N ÔL! ✨
Dan ni methu aros am dydd Sul cyntaf y tymor yng Nghaersalem, Sul yma am 10! 🙌
Ac mae’r Ysgol Sul yn ôl hefyd! 🎉 Sesiwn hwyliog yn ystod yr oedfa i blant Dosbarth Derbyn hyd at Flwyddyn 6 — gyda straeon o’r Beibl, crefftau, gemau a lot o hwyl! 🎨🎲📖
Wedi bod o’r blaen neu’n hollol newydd? Mae croeso mawr i’r teulu cyfan. Dewch fel dach chi! 💛
📍 Caersalem, Caernarfon
🕙 Bore Sul | 10am

Yr hydref hwn yng Nghaersalem, byddwn yn dechrau cyfres newydd yn edrych ar lyfr Exodus: Drwy’r Anialwch.Mae Exodus yn s...
03/09/2026

Yr hydref hwn yng Nghaersalem, byddwn yn dechrau cyfres newydd yn edrych ar lyfr Exodus: Drwy’r Anialwch.

Mae Exodus yn stori sydd wedi ei leoli mewn amser a byd sy'n bell iawn o'n byd ni heddiw. Ond eto, fe welwn ni ei fod yn stori sy’n cyffwrdd a themau rhyfeddol o berthnasol a chyfoes.

Mae’r hen fyd wedi mynd. Mae Pharo newydd yn codi sy’n troi yn erbyn lleiafrif bregus ac yn eu portreadu fel bygythiad. Mae ofn yn cael ei ddefnyddio i ennill grym. Mae pobl yn dyheu am ryddid, ond pan ddaw rhyddid maent yn darganfod nad yw rhyddid gwleidyddol yn dod a rhyddid mewn gwirionedd. Mae gwir ryddid yn ymwneud a chyflwr meddwl a chyflwr calon.

Efallai eich bod chi'n synhwyro ein bod ni yn 2026 mewn man tebyg? Yr hen drefn y tu ôl i ni, y clymau cymdeithasol cyfarwydd wedi mynd, ond y ffordd ymlaen yn aneglur.

Nid ydym bellach yn byw yn y “Gymru Gristnogol”, ac eto mae Duw yn dal i alw’r eglwys i fod yn bobl iddo—nid i geisio adennill statws a dylanwad, ond i fyw’n wahanol: yn bobl o ras, cyfiawnder a gobaith.

Dros y misoedd nesaf byddwn yn dilyn Israel o gaethiwed i ryddid, ac o sicrwydd yr Aifft i ansicrwydd yr anialwch.

Nid map a thaith taclus yw Exodus. Mae’n stori am ddysgu cerdded gyda Duw pan nad ydym yn gwybod i ble’r ydym yn mynd.

Dewch gyda ni!

Da iawn Mair Bebb Jones a diolch i aelodau'r capel gefnogodd y fenter.
02/09/2026

Da iawn Mair Bebb Jones a diolch i aelodau'r capel gefnogodd y fenter.

A huge thank you to Mair Bebb, who has raised £300 for Alaw Ward through the sale of her hand-decorated bottle lights.

Mair was inspired to create and sell the bottle lights for charity whilst she was a member of the local choir, Côr Law yn Llaw. Choir members, friends and people from the community of Capel Caersalem in Caernarfon kindly purchased the bottle lights, helping Mair raise the final total.

The funds raised were donated in memory of Mair’s brother, Aled Harri Jones, who sadly passed away from prostate cancer in 2015 at the age of 55.

Staff at Alaw Ward would like to thank Mair and everyone who supported the fundraiser. Their generosity will help make a difference to patients and their families.

💙✨💙

Diolch yn fawr i Mair Bebb, sydd wedi codi £300 ar gyfer Ward Alaw drwy werthu ei photeli golau wedi'u haddurno â llaw.

Cafodd Mair ei hysbrydoli i greu a gwerthu'r poteli golau tra oedd yn aelod o gôr lleol, Côr Law yn Llaw. Prynodd aelodau'r côr, ffrindiau a phobl o gymuned Capel Caersalem, Caernarfon, y poteli golau gan helpu Mair i gyrraedd y cyfanswm terfynol.

Rhoddwyd yr a***n a godwyd er cof am frawd Mair, Aled Harri Jones, a fu farw o ganser y prostad yn 2015 yn 55 oed.

Hoffai staff Ward Alaw ddiolch i Mair a phawb a gefnogodd y gwaith codi a***n. Bydd eu haelioni yn helpu i wneud gwahaniaeth i gleifion a'u teuluoedd.

Mae recordiad sain o’ r neges olaf yn ein cyfres ar gyfer yr haf ar gael nawr. "Cofiodd Duw – Duw yn Dewis Anghofio" (Je...
31/08/2026

Mae recordiad sain o’ r neges olaf yn ein cyfres ar gyfer yr haf ar gael nawr. "Cofiodd Duw – Duw yn Dewis Anghofio" (Jeremeia 31, 31-34) gyda Rhodri Jones

Podlediad Yn y cyfarfodydd dydd Sul bydd Rhys neu rhywun arall yn siarad am 20 munud i hanner awr ar ddarn neu bwnc allan o’r Beibl. Mae modd gwrando eto trwy eich porwr neu danysgrifio i dderbyn y negesuon fel Podlediad trwy’r gwasanaethau canlynol:         Ffilm a Fideo Sianel YouTube Caer...

Yn edrych ymlaen i'ch croesawu fore Sul am 10 pan fyddwn yn gorffen ein cyfres haf, "Cofiodd Duw"
27/08/2026

Yn edrych ymlaen i'ch croesawu fore Sul am 10 pan fyddwn yn gorffen ein cyfres haf, "Cofiodd Duw"

24/08/2026

Mae recordiad sain o neges bore ddoe yng nghyfres yr haf ar gael nawr. "Cofiodd Duw - Ffyddlondeb ac Achubiaeth Duw" (Salm 98, 3) gydag Arwel Jones
https://caersalem.com/podlediad/

Bydd croeso cynnes i chi ymuno a ni bore Sul pan fyddwn yn parhau yn ei cyfres "Cofiodd Duw"
20/08/2026

Bydd croeso cynnes i chi ymuno a ni bore Sul pan fyddwn yn parhau yn ei cyfres "Cofiodd Duw"

Address

Stryd Garnon
Caernarfon
LL552

Alerts

Be the first to know and let us send you an email when Caersalem Caernarfon posts news and promotions. Your email address will not be used for any other purpose, and you can unsubscribe at any time.

Contact The Place Of Worship

Send a message to Caersalem Caernarfon:

Shortcuts

Share

Category