Craig Blaenau

Craig Blaenau Capel Cymunedol ym Mlaenau Ffestiniog. Cymuned i bawb ddod o hyd i le saff, pwrpas a gobaith yn Iesu.

04/09/2026

Stori Jez 🙏

“I never could have imagined my life changing in this way, and honestly would have laughed at someone had they told me that I’d be going to church, that I’d believe in God, that I’d have a relationship with Jesus, that I’d have find healing, peace and a strength that I didn’t think was possible.” ‭❤️

✝️ Bob bore Sul | Capel Craig + Ysgol Sul
📍 Yr Aelwyd
🕙 10yb

Mae na le i bawb.
Mae na le i chi. ❤️

⭐️ Craig Bach ⭐️Ni methu aros i ail-dechrau Craig Bach bore fory! Dani wir wedi methu ein cymuned Craig Bach GYMAINT dro...
02/09/2026

⭐️ Craig Bach ⭐️

Ni methu aros i ail-dechrau Craig Bach bore fory! Dani wir wedi methu ein cymuned Craig Bach GYMAINT dros yr Haf 💔

Os chi heb fod o’r blaen bydd croeso mawr i chi a’ch bychan 🥰 Disgwyliwch llwyth o chwarae, cyfleon i ddal fyny a cyfarfod a phobl newydd, rhywbeth i’w fwyta (yndi mae’r tost i’r rhieni gymaint ag ydio i’r plant 😉), digonedd o ganu a dawnsio, a gweddi bach diwedd pob bore 🎂🎶🙏

Croeso i bawb sydd â babi rhwng 0-4 oed i ymuno â ni rhwng 9:30-11yb bob bore Iau! 🧸✨

Byddwn yn caru eich gweld chi ❤️ A cofiwch rhoi’r gwahoddiad i eraill 🦕🐥⭐

Bob bore Sul | Capel Craig + Ysgol SulMae croeso mawr i chi ymuno â ni bob bore Sul yn Capel Craig! 🙌Mae Ysgol Sul ar ga...
29/08/2026

Bob bore Sul | Capel Craig + Ysgol Sul

Mae croeso mawr i chi ymuno â ni bob bore Sul yn Capel Craig! 🙌

Mae Ysgol Sul ar gael i’r plant hefyd - gyda straeon o’r Beibl, caneuon, crefftau, gemau a llawer o hwyl! 🎨🎯🎉🎶

📍 Yr Aelwyd
🕙 10yb

Beth i’w ddisgwyl?

☕️ + 🥐 Coffi a croissants yn aros amdanoch
🎶 Digon o ganu bywiog
✝️ Neges o obaith o’r Beibl
🌟 Ysgol Sul ‘run amser i’r plant
☺️ Gwasanaeth Cymraeg but with English translation available
🫂 Croeso enfawr gan deulu amherffaith o bobl
🥗 Cymuned sy’n fwy na bore Sul yn unig

I bwy?

Beth bynnag yw eich stori, beth bynnag yw eich profiad o’r capel, ac os ydych chi’n “grefyddol” neu ddim - o’r ieuengaf i’r hynaf, mae croeso i chi yn Capel Craig.

Mae Duw yn eich caru chi. ❤️

Unrhyw beth arall?

Does dim angen cofrestru o flaen llaw.
Does dim angen gwisgo dillad arbennig.
Does dim cost.
A does dim rhaid bod yn “oce”.

Achos yma, mae’n oce i ddim bod yn oce. 🫶

Mae na le i bawb.
Mae na le i chi. ❤️

27/08/2026

Stori Cian 🙏

“Er imi gerdded trwy ddyffryn tywyll du, nid ofnaf unrhyw niwed, oherwydd yr wyt ti gyda mi, a’th wialen a’th ffon yn fy nghysuro.” Salm‬ ‭23‬:‭4‬ ‭❤️

Bydd Capel Craig nôl bore Sul yma 🙌

Mae na le i chi, mae na le i bawb 🫶

08/08/2026

Elliw 👏🙏🙌🫶

Tŷ Coffi Goddard ☕️
Rydym yn parhau i gymryd seibiant dros Awst o’n gwasanaethau arferol ond mae dal cyfle i gymdeithasu...
07/08/2026

Tŷ Coffi Goddard ☕️

Rydym yn parhau i gymryd seibiant dros Awst o’n gwasanaethau arferol ond mae dal cyfle i gymdeithasu yn Nhŷ Elliot a Joie Sul yma! 🫶

Dewch o 10yb ymlaen 🕙 

Bydd coffi da (a Matcha 😏) ar gael, cacennau a chrefftau i’r plantos 🤩

Rhowch neges am y cyfeiriad 📍

05/08/2026

Neges Sul Bedydd: Be like Ann 🙏

““Dw i wedi’ch caru chi yn union fel mae’r Tad wedi fy ngharu i. Arhoswch yn fy nghariad i.” Ioan‬ ‭15‬:‭9‬ ‭❤️

Capal Craig yn Awst ☀️Oherwydd gwyliau a gwahanol gyrsiau yng Ngholeg y Bala rydym am gymryd brêc dros Awst o gynnal gwa...
31/07/2026

Capal Craig yn Awst ☀️

Oherwydd gwyliau a gwahanol gyrsiau yng Ngholeg y Bala rydym am gymryd brêc dros Awst o gynnal gwasanaethau ond di hwnna ddim yn golygu ein bod am roi fyny gyfarfod a’n gilydd! 🫶

Yn lle bydd ein rhythm ‘chydig yn wahanol dros y 4 Sul nesa - byddwn yn cael cyfleon i gymdeithasu a mynd i ffwrdd i cynhadledd Souled Out a’n gilydd un Sul 🙌

Dyma’r cynllun:

Awst 2il - Picnic a mawl 🥗🎶 Cyfle i ni gymdeithasu a moli wrth Llŷn Mair dros bicnic a thrip bach i caffi / parc Tan y Bwlch ar ôl 😎

Awst 9fed - Tŷ Coffi Goddard ☕️ Gwahaoddiad i BAWB draw i tŷ Elliot a Joie am goffi / paned neu hyd yn oed matcha!! Bore hamddenol braf o ddal fyny a’n gilydd 🥰

Awst 16eg - Sul Souled Out ✝️🎉 Byddwn yn ymuno a chriw Souled Out yn y Bala am wasanaeth yn y bore a gwaith plant cyn ymuno yn y pnawn hwyl i ddod 🤩

Awst 23ain - BBQ a Parc 🍗🔥 BBQ yn tŷ Siôn a Meg cyn mynd draw i’r parc yn y Sgwar am ragor o chwarae a chymdeithasu ☺️ 

Cysylltwch os chi’n dymuno dod ac eisiau rhagor o fanylion - mae na le i BAWB 🫶

Fory 🎉🎉🎉
29/07/2026

Fory 🎉🎉🎉

HWYL YN Y PARC 🌞🌳
Mae ein ffrindiau o Firestarters Wales am fod yn cynnal gweithgareddau yn parc y sgwâr rhwng 1:30-3:30yh ar brynhawn dydd iau yma! Dewch i fwynhau gemau, crefftau, paent gwyneb a mwy i gyd am ddim! 🎶🎨⚽️
Mae yna groeso mawr i’r gymuned gyfan! ☺️

Address

Blaenau-Ffestiniog

Alerts

Be the first to know and let us send you an email when Craig Blaenau posts news and promotions. Your email address will not be used for any other purpose, and you can unsubscribe at any time.

Shortcuts

Share