Capel Gellimanwydd

Capel Gellimanwydd Capel Gellimanwydd, Rhydaman. Eglwys Annibynol Cymraeg sy'n cyhoeddi’r Efengyl a thystio i fawredd a gogoniant Iesu Grist.

Dewch i’r Sul o Fawl Dydd Sul y Blodau 29 Mawrth. Catrin Hughes yn arwain a Meleri Morris yn cyfeilio.
21/03/2026

Dewch i’r Sul o Fawl Dydd Sul y Blodau 29 Mawrth.
Catrin Hughes yn arwain a Meleri Morris yn cyfeilio.

Cawsom brynhawn arbennig ddoe pan roedd Y Gymdeithas yn parhau a’n dathliadau Gŵyl Dewi. Cawsom Gawl a Chän hyfryd. Roed...
13/03/2026

Cawsom brynhawn arbennig ddoe pan roedd Y Gymdeithas yn parhau a’n dathliadau Gŵyl Dewi. Cawsom Gawl a Chän hyfryd. Roedd y cawl wedi ei baratoi gan Y Gegin Fach a wedi’r wledd cawsom ein diddanu gan y ddeuawd amryddawn Keri Morgan ac Eifion Price. Roedd yn bleser cael bod yno yn dathlu a chymdeithasu.

Dydd Gŵyl Sant hapus i chi gyd
01/03/2026

Dydd Gŵyl Sant hapus i chi gyd

Pancos yn cwca yn y neuadd.  Te crempog.Beth ydych chi yn ei ddweud - PancosCrempogCromothFfroisPrynhawn hyfryd.
17/02/2026

Pancos yn cwca yn y neuadd. Te crempog.
Beth ydych chi yn ei ddweud -
Pancos
Crempog
Cromoth
Ffrois

Prynhawn hyfryd.

03/01/2026

Mae Oedfa Gymun Gellimanwydd bore yfory, Ionawr 4ydd wedi ei chanslo oherwydd y tywydd. Bydd yr oedfa gymun nesaf ar 18 Ionawr.

Yn ystod ein  gwasanaeth Nadolig eleni daeth Briana Stayt, Swyddog Gorllewin Cymru elusen Arch Noa atom i dderbyn siec o...
30/12/2025

Yn ystod ein gwasanaeth Nadolig eleni daeth Briana Stayt, Swyddog Gorllewin Cymru elusen Arch Noa atom i dderbyn siec o £3,000 tuag at Ysbyty Arch Noa. Dyma hanner elw ein Cyngerdd Nadolig gyda Chôr Llanddarog.
Roedd yn hyfryd croesawu Briana i’r gwasanaeth a chawsom anerchiad pwrpasol ganddi yn esbonio sut bydd yr a***n yn cael ei ddefnyddio tuag at helpu plant a rhieni yn yr ysbyty.
Yn ogystal rydym wedi derbyn llythyr o ddiolch gan Mrs Susan Thomas, Ysgrifenyddes Pwyllgor Apêl Tŷ Bryngwyn yn diolch am y rhodd o £1,500 tuag at yr hospis.
Yn y llun gwelir ein Gweinidog Y Parchg Emyr Gwyn Evans a'n trysorydd Edwyn Williams yn cyflwyno'r siec i Briana.

Cynhaliwyd  Gwasanaeth Nadolig Yr Ysgol Sul eleni ar fore Sul 21 Rhagfyr.Roedd y plant hŷn yn arwain trwy ddarllen, gwed...
28/12/2025

Cynhaliwyd Gwasanaeth Nadolig Yr Ysgol Sul eleni ar fore Sul 21 Rhagfyr.Roedd y plant hŷn yn arwain trwy ddarllen, gweddio, llefaru a chyflwyno'r emynau. Cawsom eitem hyfryd gan y plant lleiaf wrth iddynt ganu tair cân am y Nadolig.
Ar ddiwedd yr oedfa daeth Sion Corn i ymweld a'r plant a chyflwyno anrheg bach i bob un. Roedd y capel yn gyffyrddus lawn a cawsom wir fendith yn dathlu'r Nadolig gyda'n gilydd.

Cawsom noson arbennig neithiwr, 6 Rhagfyr, yn y Capel pan gynhaliwyd ein Cyngerdd Nadolig gyda Chôr Llanddarog. Roedd y ...
07/12/2025

Cawsom noson arbennig neithiwr, 6 Rhagfyr, yn y Capel pan gynhaliwyd ein Cyngerdd Nadolig gyda Chôr Llanddarog.
Roedd y naws yn arbennig a hyfryd oedd gweld y capel yn gyffyrddus lawn.
O dan arweiniad medrus Meinir RIchards cawsom wledd gan y Côr gyda amryw eitemau yn cynnwys y côr llawn, ensemble lleisiol, côr bechgyn a chôr merched ynghyd ac unawdau canu a llefaru.
Llywydd y noson oedd Mr Geraint Evans, Prifweithredwr S4C a chawsom araith hynod o ddiddorol ganddo.
I orffen y noson fe wnaeth y côr ganu Mab y Forwyn, tefniant Gareth Glyn; Teilwng yw'r Oen, Handel ac O Ddwyfol nos, Adolphe Adam.
Diolch i nawdd hael Roberts Concrete, er cof am Keith ac Elaine Roberts, sylfaenwyr y cwmni, ac i ferched y Gegin Fach am baratoi bwffe am ddim sydd yn golygu ein bod yn gallu rhoi £1,500 yr un i'n helusennau, Ysbyty Arch Noa a Tŷ Bryngwyn, Llanelli. Côr Llanddarog

Dewch i ddathlu'r Nadolig gyda Chôr Llanddarog Nos Sadwrn yma 6 Rhagfyr yng Nghapel Gellimanwydd, Rhydaman am 7.00 o'r g...
03/12/2025

Dewch i ddathlu'r Nadolig gyda Chôr Llanddarog Nos Sadwrn yma 6 Rhagfyr yng Nghapel Gellimanwydd, Rhydaman am 7.00 o'r gloch.
Tocyn yn £10 - gewch dalu wrth y drws neu brynu un o flaen llaw yn siopau Cyfoes, Rhydaman; Cwtch, Pontyberem neu Siop y Pentan, Caerfyrddin.
Mae elw'r noson ym mynd tuag at Ysbyty Arch Noa a Tŷ Bryngwyn.
Dewch yn llu.

02/12/2025
29/11/2025

Join us to celebrate the Christmas season.
On Sunday the 14th of December at 3pm in Gellimanwydd chapel Ammanford.

Dewch i gefnogi ein Cyngerdd Nadolig eleni yng nghwmni Côr Llanddarog. Mae'r elw yn mynd tuag at Ysbyty Arch Noa a Tŷ Br...
11/11/2025

Dewch i gefnogi ein Cyngerdd Nadolig eleni yng nghwmni Côr Llanddarog. Mae'r elw yn mynd tuag at Ysbyty Arch Noa a Tŷ Bryngwyn. Mae tocynnau ar gael gan ein Gweinidog Y Parchg Emyr Gwyn Evans ar 01269 831083 neu [email protected]

Address

High Street
Ammanford

Website

Alerts

Be the first to know and let us send you an email when Capel Gellimanwydd posts news and promotions. Your email address will not be used for any other purpose, and you can unsubscribe at any time.

Share