04/09/2026
Mae Mark lawr yn yr Eglwys Gadeiriol yn Nhyddewi yn gwneud ei waith fel Canon, felly Jamie sydd wrth y llyw ddydd Sul yma.
Cofiwch am ein cwrdd gweddi am 8.30am ac yna gwasanaeth Mawl y Bore am 9.45am yn yr eglwys. Mi fyddwn ni'n parhau â'n hastudiaeth o lythyr Paul at y Thesaloniaid.
Fe fydd gwasanaeth yr Hwyrol Weddi ar Zoom yn ol yr arfer am 5.00pm.
Croeso cynnes i bawb ymuno â ni!