Gobaith Nantlle

Gobaith Nantlle 'Duw, ffynhonnell gobaith.' (Rhuf. 15.13) Tudalen i hyrwyddo gwaith amrywiol gapeli ac eglwysi Dyffryn Nantlle.

Yn cael ei weinyddu gan Rhys Llwyd, Arweinydd Cyd-enwadol capeli Penygroes.

Diolch am ddod ❤️
07/07/2026

Diolch am ddod ❤️

🎉 EBENESER LLANLLYFNI YN DATHLU 200 MLYNEDD! 🎉Yr Haf yma rydym yn dathlu carreg filltir arbennig iawn yn hanes ein cymun...
23/06/2026

🎉 EBENESER LLANLLYFNI YN DATHLU 200 MLYNEDD! 🎉

Yr Haf yma rydym yn dathlu carreg filltir arbennig iawn yn hanes ein cymuned wrth i Gapel Ebeneser, Llanllyfni gyrraedd ei benblwydd yn 200 oed.

Dros y pythefnos nesaf bydd cylchgrawn arbennig yn cael ei ddosbarthu i gartrefi'r pentref yn myfyrio ar y ffydd, y gobaith a'r cariad sydd wedi bod wrth wraidd bywyd y capel ers 1826 – ac sy'n parhau i roi ystyr a chyfeiriad i fywydau pobl heddiw.

Mae croeso cynnes i bawb ymuno â ni yn y ddau ddigwyddiad cyhoeddus canlynol:

📅 Dathliad Cymunedol 🕑 7 Gorffennaf am 2.00pm
Dathliad cymunedol yng nghwmni Ysgol Llanllyfni, Trey McCain a Hannah Smethurst o Clwb Splash, y Gweinidog Rhys Llwyd ac aelodau a chyfeillion y capel. Cyfle i ddod ynghyd i ddathlu bywyd y gymuned a'r etifeddiaeth sydd wedi ein siapio. Croeso cynnes i bawb.

📅 Darlith Hanesyddol 🕖 9 Gorffennaf am 7.00pm
Darlith gyhoeddus hwyliog yng nghwmni'r hanesydd lleol Geraint Jones, Trefor, yn edrych ar hanes gweinidog cyntaf Ebeneser, y Parchedig Robert Jones, Llanllyfni, a'r byd y bu'n byw a gweinidogaethu ynddo. Croeso cynnes i bawb.

Ebeneser Llanllyfni: 200 mlynedd o ffydd. gobaith. cariad. 💚

🌱 GWASANAETH POB OED – 14 Mehefin, 2026 am 10yb! 🌱Ymunwch â ni am fore anffurfiol, cynnes a chyfeillgar wrth i ni ddod a...
05/06/2026

🌱 GWASANAETH POB OED – 14 Mehefin, 2026 am 10yb! 🌱

Ymunwch â ni am fore anffurfiol, cynnes a chyfeillgar wrth i ni ddod at ein gilydd i addoli, myfyrio a mwynhau cwmni ein gilydd.

🎸 Emynau hwyliog a chyfarwydd
💬 Neges a myfyrdod i bob oed, yn cynnwys y plant
☕ Croeso cynnes i ffrindiau hen a newydd

📍 Capel y Groes, Penygroes
📅 Dydd Sul 14 Mehefin 2026
🕙 10:00yb

Bydd Rhys, Hannah, Trey a ffrindiau yn arwain y bore.

P’un a ydych yn dod yn rheolaidd i un o gapeli'r Dyffryn, heb fod mewn capel ers blynyddoedd, neu’n chwilfrydig i wybod mwy am ffydd Gristnogol – mae croeso mawr i chi.

“Boed i Dduw, ffynhonnell gobaith, eich llenwi â phob llawenydd a thangnefedd wrth ichi gredu.” (Rhufeiniaid 15:13)

PWYSIG: Oherwydd y tywydd mae’r digwyddiad “Dathlu’r Gwanwyn gyda Stori’r Pasg” wedi ei symud dan do i’r Neuadd Goffa rw...
31/03/2026

PWYSIG: Oherwydd y tywydd mae’r digwyddiad “Dathlu’r Gwanwyn gyda Stori’r Pasg” wedi ei symud dan do i’r Neuadd Goffa rwan. Welwn ni chi yno.

🌿✝️ Dydd Gwener YMA – Gwener y Groglith (3 Ebrill, 2026)

Dau gyfle i nodi'r diwrnod pwysig:

🕤 9.30yb
Oedfa fer gyda Chymun i gofio a diolch am aberth Iesu dan arweiniad Rhys Llwyd
📍 Soar, Penygroes
Croeso cynnes i bawb – ffrindiau hen a newydd

🌼 3.00yp
Dathlu’r Gwanwyn gyda Stori’r Pasg
📍 Yr Ardd Wyllt (ger y Co-op)
➡️ Neuadd Goffa os bydd y tywydd yn wael
Digwyddiad teuluol llawn hwyl – gweithgareddau, stori, a chyfle i ddathlu bywyd newydd 🌱

Dewch i ymuno gyda ni!

10/03/2026

Mae 🎉 Llan Llanast 🎉 yn ôl ym Mhenygroes!
Ymunwch â ni 🗓️ prynhawn Sul, 15fed o Fawrth ⏰ 2yp 📍 Neuadd Goffa Penygroes
Bydd yna 📖 stori, ✂️ crefft a 🎶 chân mewn awyrgylch anffurfiol sy’n addas i bob oed. 🤗
Croeso cynnes — a chroeso arbennig i ffrindiau newydd! 💛

📅 Cadwch y dyddiad! Mae 🎉 Llan Llanast 🎉 yn ôl ym Mhenygroes!Ymunwch â ni 🗓️ prynhawn Sul, 15fed o Fawrth⏰ 2yp📍 Neuadd G...
25/02/2026

📅 Cadwch y dyddiad! Mae 🎉 Llan Llanast 🎉 yn ôl ym Mhenygroes!
Ymunwch â ni 🗓️ prynhawn Sul, 15fed o Fawrth
⏰ 2yp
📍 Neuadd Goffa

Bydd yna 📖 stori, ✂️ crefft a 🎶 chân mewn awyrgylch anffurfiol sy’n addas i bob oed. 🤗 Croeso cynnes — a chroeso arbennig i ffrindiau newydd! 💛

Braf clywed fod Offeiriad newydd wedi ei phenodi i’r cylch. Gan ddisgwyl ymlaen i gyd-weithio os bydd cyfle 👍🙏🏻
20/01/2026

Braf clywed fod Offeiriad newydd wedi ei phenodi i’r cylch. Gan ddisgwyl ymlaen i gyd-weithio os bydd cyfle 👍🙏🏻

Croeso’n ôl i’r Esgobaeth, Nia! | Delighted you've joined us, Nia :)

Mae Esgobaeth Bangor wedi cyhoeddi penodiad y Parchedig Nia Catrin Williams yn offeiriad newydd yn gwasanaethu eglwysi Dyffryn Nantlle yng Ngwynedd.

Yn siaradwraig Gymraeg ei hiaith gyntaf, mae Nia yn dychwelyd i Esgobaeth Bangor ac i’w hardal enedigol yng Ngogledd Cymru, gan ddod â dros 25 mlynedd o brofiad o weinidogaeth ordeiniedig. Mae Nia yn enw cyfarwydd ar draws yr Eglwys yng Nghymru, wedi gwasanaethu’n flaenorol fel offeiriad yn Esgobaeth Llanelwy ac Esgobaeth Bangor.

Bydd Nia yn gwasanaethu fel Arweinydd Ardal Weinidogaeth yn Ardal Weinidogaeth Beuno Sant Uwch Gwyrfai.

~~~
We’re delighted to welcome the Revd Nia Catrin Williams back to the Diocese of Bangor as she takes up her new role serving the churches of the Nantlle Valley in Gwynedd.

A first-language Welsh speaker, Nia brings over 25 years of ordained ministry and is well known across the Church in Wales. She has previously served in both the Diocese of St Asaph and Diocese of Bangor, and since 2016 has served as a Chaplain in the Armed Forces, currently as a Reservist Chaplain with the RAF.

Nia will now lead the Beuno Sant Uwch Gwyrfai Ministry Area.

Croeso adref, Nia! 🙌

Link in the comments

🧹 Tyd i glirio’r gwe pry-cop ar ddechrau’r flwyddyn newydd… a phrofi'r wefr eto gyda Duw 🔥Mae'r Nadolig drosodd, yr addu...
08/01/2026

🧹 Tyd i glirio’r gwe pry-cop ar ddechrau’r flwyddyn newydd… a phrofi'r wefr eto gyda Duw 🔥

Mae'r Nadolig drosodd, yr addurniadau i lawr — ond rhywsut mae’r gwe pry-cop dal yno? Yn y tŷ… ac efallai yn ein bywydau hefyd?

📖 “Gad i mi brofi’r wefr eto o gael fy achub gen ti.” (Salm 51)

Dydd Sul yma byddwn ni’n dod at ein gilydd i ofyn cwestiwn syml ond dwfn:
👉 Sut mae clirio’r hen er mwyn gwneud lle i’r newydd?
👉 A yw’n bosib profi Duw o’r newydd?

🕊️ Gwasanaeth Traddodiadol Misol Gobaith Nantlle dan arweiniad ein Arweinydd Cyd-enwadol Rhys Llwyd.
🎶 Emynau
🙏 Gweddi
📖 Pregeth fydd yn dod â neges y Beibl yn fyw ar gyfer heddiw

🗓️ Dydd Sul, 11 Ionawr 2026
⏰ 10:00yb
📍 Capel Soar, Penygroes
🎤 Pregethu: Rhys Llwyd

Neges ar Salm 51:10–13 ac Ioan 6:66–69 —
neges am adnewyddiad, profiad, a dewis Iesu hyd yn oed pan mae popeth arall yn siomi.

Os wyt ti:
• wedi blino ar fynd trwy'r motiwns heb wefr
• neu jest yn hiraethu am brofi rhywbeth mwy ar ddechrau 2026

👉 Croeso cynnes iawn i ti ddod — a bod yn agored i brofi Crist o’r newydd. 🔥 “Arglwydd, at bwy awn ni?” 🔥

25/12/2025
🎶 Oedfa Garolau📍 Heddiw - Dydd Sul 21 Rhagfyr | 4yh⛪ Ebeneser, Llanllyfni (yn y festri yng ngefn y capal)🌟 Neges o obait...
21/12/2025

🎶 Oedfa Garolau
📍 Heddiw - Dydd Sul 21 Rhagfyr | 4yh
⛪ Ebeneser, Llanllyfni (yn y festri yng ngefn y capal)
🌟 Neges o obaith ar drothwy’r Nadolig
Croeso i ffrindiau hen a newydd i oedfa dan arweiniad ein Gweinidog Rhys Llwyd.

Address

Capel Y Groes A Soar Penygroes Ac Ebeneser Llanllyfni
Pen-Y-Groes

Website

Alerts

Be the first to know and let us send you an email when Gobaith Nantlle posts news and promotions. Your email address will not be used for any other purpose, and you can unsubscribe at any time.

Shortcuts

Share