Cyngor Ysgolion Sul / Cyhoeddiadau'r Gair

Cyngor Ysgolion Sul / Cyhoeddiadau'r Gair Tudalen i rannu gwybodaeth am weithgarwch Ysgolion Sul a gwaith plant a ieuenctid Cristnogol yng Nghy Dyma’r wyrth gyflawnodd Cyhoeddiadau’r Gair.

Braslun o hanes Cyngor Ysgolion Sul ac Addysg Gristnogol Cymru
Cynhaliwyd cyfarfod cyntaf Cyngor Ysgolion Sul ac Addysg Gristnogol Cymru, yn y Coleg Diwinyddol, Aberystwyth, ar 1 Gorffennaf 1966. Yr oedd deuddeg gŵr deallgar a doeth yn cynrychioli’r pedwar enwad anghydffurfiol Cymraeg, ond erbyn y cyfarfod nesaf ymhen deufis roedd gan yr Eglwys Esgobol ei chynrychiolydd, ac ers hynny y mae’r pum enwad wedi cefnogi holl waith y Cyngor. Roedd y ‘Datganiad o Ymddiriedaeth’ wedi’i arwyddo ar 14 Ionawr 1966 gyda Ebenezer Curig Davies, Gwilym Prys Davies, Joseph Haines Davies, Alun Roderick Edwards, Thomas Oliver Gregory a Morgan John Williams, yn Ymddiriedolwyr. Yn ôl y ddogfen roedd y Cyngor i gynnwys dau aelod yn cynrychioli’r pum enwad Cymraeg ynghyd a nifer o aelodau etholedig a chyfetholedig yn cynrychioli gwahanol enwadau a mudiadau. Yn y cyfarfod cyntaf etholwyd y Parch Curig Davies yn Gadeirydd, Mr T O Gregory yn Drysorydd a’r Parch J Haines Davies, a fu’n Ysgrifennydd am ugain mlynedd. Yn dilyn hynny bu nifer o wahanol rai yn ysgrifenyddion cydwybodol i’r Cyngor

Amcanion
Yn ôl y ddogfen gyfreithiol rhai o brif amcanion y Cyngor yw – hybu addysg Gristnogol; hyfforddi athrawon i gyflwyno addysg Gristnogol; cyhoeddi llenyddiaeth, llyfrau, pamffledi a chylchgronau i blant a phobl ieuainc Cymru, a hynny yn Gymraeg. I gyfarfod â’r amcanion mae’r Cyngor o’r cychwyn wedi trefnu meysydd llafur ar gyfer pob oedran yn yr ysgol SuI. Cyhoeddwyd gwerslyfrau, llyfrau gweithgarwch a deunyddiau atodol amrywiol eraill ar hyd y blynyddoedd,
Menter fawr yn 1978 oedd cyhoeddi Beibl y plant mewn Lliw ac oherwydd y galw aruthrol rhaid oedd cyhoeddi trydydd argraffiad. Cyhoeddid Antur (yn fisol i gychwyn) ar gyfer y plant ond oherwydd y gostyngiad blynyddol yn y gwerthiant er dechrau’r wythdegau a hynny’n golygu colled ariannol i’r Cyngor rhaid oedd ei ddirwyn i ben yn 1992. Bu nifer o weithgareddau a phrojectau dros y blynyddoedd gan gynnwys Ysgol Haf yr ysgol Sul; Cwisiau Beiblaidd; Cystadlaethau Chwaraeon; Gwersylloedd plant ac ieuenctid; Calendrau Adfent; Cyrsiau Hyfforddi, Stondinau yn yr Eisteddfodau a’r Sioe Frenhinol yn Llanelwedd; Trefnu Tripiau i Butlins ac Oakwood; Gweithgarwch Unedau Dyfed a Gwynedd ayyb

Swyddogion Datblygu
Rhan o’r weledigaeth wreiddiol oedd sefydlu rhwydwaith o Drefnyddion Rhanbarthol. Cefnogwyd cynllun i benodi dau swyddog gan y Swyddfa Gymreig ac yn 1984 penodwyd Miss Angharad Roberts a Miss Delyth Oswy, y naill yn y De a’r llall yn y Gogledd. Eu gwaith oedd cydgysylltu ag eglwysi/ysgolion SuI, sefydlu pwyllgorau ymgynghorol mewn ardaloedd, hybu darpariaeth ar gyfer gwaith yr ysgol Sul, trefnu cyrsiau i hyfforddi athrawon ysgol Sul, ac effeithioli gwaith yr ysgolion Sul yn gyffredinol. Dilynwyd hwy gan nifer o swyddogion eraill a llwyddwyd i barhau gyda’r swyddi am gyfnod wedi i gefnogaeth Y Swyddfa Gymreig ballu. Dau roddodd flynyddoedd o wasanaeth yw’r Parch Aled Davies a Mr Nigel Davies. Apwyntiwyd y ddau ar yr un diwrnod yn 1989 ac mae Aled yn dal gyda ni ond mewn rôl wahanol. Cyhoeddiadau’r Gair
Sylweddolodd Aled Davies fod bwlch yn y maes cyhoeddi Cristnogol ac aeth ati i weld sut y gellid ei lenwi. Canlyniad hyn oedd benthyciad ariannol gan Gyngor Ysgolion Sul i sefydlu Cyhoeddiadau’r Gair. Daeth Cyhoeddiadau’r Gair a dimensiwn newydd i fyd cyhoeddi llyfrau Cristnogol yn y Gymraeg – cafwyd llu o deitlau safonol a deniadol oedd mewn lliw llawn. Bu amrywiaeth mawr dros y blynyddoedd yn llyfrau storïau Beiblaidd; llyfrau gweithgarwch; meysydd llafur ysgolion Sul; llyfrau defosiwn; llyfrau lliwio; llyfrau gweddïo; cyfresi fideo a DVD. Erbyn hyn mae tua 750 o deitlau wedi eu cyhoeddi gan Y Wasg hon.

18/07/2026
Digon o lyfrau ac adnoddau ar stondin Cyngor Ysgolion Sul, a gweithgareddau di-ri i blant. Cyfle hefyd i gael eich cardi...
14/07/2026

Digon o lyfrau ac adnoddau ar stondin Cyngor Ysgolion Sul, a gweithgareddau di-ri i blant. Cyfle hefyd i gael eich cardiau Nadolig am £1 y pecyn.

Heddiw mae na bresoldeb gennym mewn 2 ŵyl. Mae Aled yn Llangollen a Bet-Wyn yng ngŵyl Canol Dre Caerfyrddin. Galwch mewn...
11/07/2026

Heddiw mae na bresoldeb gennym mewn 2 ŵyl. Mae Aled yn Llangollen a Bet-Wyn yng ngŵyl Canol Dre Caerfyrddin. Galwch mewn am sgwrs!

19/06/2026

🚨It's not too late to prep for Father's Day (21st June) with our instant digital download 🚨

With the World Cup taking place this summer, 'True heroes' offers football-themed ideas to help you mark Father's Day and celebrate Jesus, the true hero.

This 3-page PDF includes:
⚽a flexible session outline based around John 4:43-54 - pick and choose the activities that best suit your context
⚽a drama script
⚽prayers
⚽follow-up ideas.

Free for Roots subscribers, you can also buy it for £2 from our Shopify store:
https://admin.shopify.com/store/roots-for-churches/themes/194485191043/editor?previewPath=%2Fproducts%2Ftrue-heroes-a-football-themed-fathers-day-resource

Newyddion gwych iawn. Dymuniadau gorau i ti Manon. Mor falch o dy gefnogaeth i Cyngor Ysgolion Sul bob amser ac am bob c...
17/06/2026

Newyddion gwych iawn. Dymuniadau gorau i ti Manon. Mor falch o dy gefnogaeth i Cyngor Ysgolion Sul bob amser ac am bob cydweithio.

Braf oedd gweld Ystafell y Cyngor yn y Llyfrgell Genedlaethol yn orlawn heddiw ar gyfer cyfarfod lansio cyfrol John Tudn...
01/06/2026

Braf oedd gweld Ystafell y Cyngor yn y Llyfrgell Genedlaethol yn orlawn heddiw ar gyfer cyfarfod lansio cyfrol John Tudno Williams. Llongyfarchiadau John am y gampwaith. Diolch i bawb ddaeth i gefnogi. Bydd Cydymaith i’r Beibl Cymraeg Newydd yn y siopau yn ystod y dyddiau nesaf.

Mae fel ffair ar y stondin heddiw - llond lle o blant. Diolch i griw Goleudy Môn am wirfoddoli heddiw. Braf cael croesaw...
27/05/2026

Mae fel ffair ar y stondin heddiw - llond lle o blant. Diolch i griw Goleudy Môn am wirfoddoli heddiw. Braf cael croesawu Cadeirydd ac Is- gadeirydd Cytûn i mewn atom sef Jennie Hurd a Kathryn Stowers.

Address

Ael Y Bryn
Chwilog
LL536SH

Alerts

Be the first to know and let us send you an email when Cyngor Ysgolion Sul / Cyhoeddiadau'r Gair posts news and promotions. Your email address will not be used for any other purpose, and you can unsubscribe at any time.

Shortcuts

Share