Bro Cwyfan

Bro Cwyfan Mae ardal weindidogaeth Bro Cwyfan yn rhan o Esgboaeth Bangor

Bro Cwyfan Ministry Area within the D

30/05/2026

Gwasanaeth Cymun fory am 10.30am.
Croeso cynnes i pawb!

Communion Service tomorrow 10.30am.
Warm welcome to all!

Esgobaeth Bangor - The Diocese of Bangor
Bro Cwyfan
Trefor Williams

Fel y gwyddoch, bydd Eisteddfod yr Urdd yn cael ei chynnal ym Mona mewn ychydig wythnosau. Rydym wedi bod yn trafod pa m...
08/05/2026

Fel y gwyddoch, bydd Eisteddfod yr Urdd yn cael ei chynnal ym Mona mewn ychydig wythnosau.
Rydym wedi bod yn trafod pa mor hyfryd fyddai gweld ein heglwysi’n dangos eu cefnogaeth drwy addurno gyda baneri neu bunting coch, gwyn a gwyrdd, neu addurniadau addas eraill.

Byddai hyn nid yn unig yn cyfrannu at awyrgylch y digwyddiad, ond hefyd yn dangos bod yr Eglwys yn rhan weithgar ac weladwy o fywyd y gymuned yn ystod achlysur mor bwysig.

Mae Urdd Ynys Môn hefyd wedi rhannu gwybodaeth ar eu tudalen Facebook am fenter debyg. Gellir prynu bunting am £5 o swyddfa’r Urdd yn Llangefni, yn ogystal â sticeri i’w defnyddio ar arwyddion ac ati.
https://www.facebook.com/share/p/1CWLhUYEdx/?mibextid=wwXIfr

As you are aware, the Urdd Eisteddfod will be held at Mona in a couple of weeks’ time. We have been discussing how wonderful it would be to see our churches showing their support by decorating with red, white and green bunting or other suitable displays. This would not only add to the overall atmosphere of the event but also demonstrate that the Church is an active and visible part of community life during such an important occasion.

Urdd Ynys Môn have also shared information on their page about a similar initiative. Bunting can be purchased for £5 from the Urdd office in Llangefni, and stickers are also available for signs.

23/04/2026

The little medieval church - where you need the tide book alongside a prayer book.

17/04/2026
05/04/2026

Pasg Hapus! Alelwia! Happy Easter ✝️

16/03/2026

Meddwl bod gweinidogaeth wledig yn dawel? Meddyliwch eto | Rural Ministry is alive and well here!

Mae gweinidogaeth wledig yng Ngorllewin Ynys Môn yn fywiog ac yn amrywiol. Mae ein heglwysi wrth galon eu cymunedau — yn leoedd gweddi ac allgymorth, yn rhannu ym mywyd bob dydd y trefi a’r pentrefi, ac yn croesawu’r miloedd o ymwelwyr sy’n dod yma bob blwyddyn.

🧐 Felly... ai chi yw’r offeiriad ar gyfer Bro Cwyfan?

Byddech yn ymuno ag eglwysi sy’n cael gofal cynnal a chadw da, sydd â seiliau ariannol cadarn, ac sy’n cael eu cefnogi gan dîm gwych o bobl sydd eisiau gweld eu heglwys yn tyfu mewn ffydd a chenhadaeth.

Rydym yn chwilio am rywun a fydd yn:

~ Chwarae rhan lawn ym mywyd ein cymunedau ac yng ngweinidogaeth yr eglwys ar draws yr ardal

~ Gwerthfawrogi’r addoliad traddodiadol y mae pobl yn ei garu, gan fod hefyd yn agored i ffyrdd newydd o gasglu pobl ynghyd mewn gweddi

~ Gweithio’n gydweithredol gyda phobl leyg, gan annog eu doniau a datblygu eu galwedigaeth

🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿 Mae’r swydd yn addas i siaradwr Cymraeg neu rywun sy’n barod i ddysgu Cymraeg. Rydym yn cynnig pecyn cynhwysfawr o ddysgu, datblygu a chefnogi i’r rhai sy’n dymuno dysgu iaith y nefoedd.

~~~~
Rural ministry in West Anglesey is lively and varied.

Our churches are at the heart of their communities — places of prayer and outreach, sharing in the everyday life of the towns and villages and welcoming the thousands of visitors who come here each year.

So, are you the priest for Bro Cwyfan? 🤔

You would be coming to churches that are well cared for, financially stable, and supported by a great team of people who want their church to grow in faith and mission.

👋 We are looking for someone who will:

* Play a full part in the life of our communities and the ministry of the church across the area

* Value the traditional worship people love while also being open to new ways of gathering people in prayer

* Work collaboratively with lay people, encouraging their gifts and growing vocation

🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿 The post is suitable for a Welsh speaker or someone willing to learn Welsh. We offer a comprehensive package of learning and development for those who wish to learn the language of heaven.

Mwy o wybodaeth | Find out more and apply 👇

https://bangor.eglwysyngnghymru.org.uk/swyddi-gwag/ficer-ac-arweinydd-ardal-weinidogaeth-bro-cwyfan/

13/03/2026

Llongyfarchiadau Llew! 👏

Mae’r Parchg Llew Moules Jones yn un o chwe uwch glerigwr yn yr Eglwys yng Nghymru sydd wedi eu penodi yn Gaplaniaid Anrhydeddus i’w Fawrhydi y Brenin.

Dathlwyd eu penodiad gyda gwasanaeth arbennig yn y Capel Brenhinol ym Mhalas Sant Iago fel rhan o ddigwyddiadau Dewi Sant, Nawddsant Cymru. Dyma'r tro cyntaf i glerigwyr yr Eglwys yng Nghymru gael eu penodi.

Wedi'i eni a'i fagu yn Ynys Môn, mae Llew Moules Jones ar hyn o bryd yn Arweinydd Ardal Weinidogaeth Bro Dwynwen a hefyd yn 'Ddeon Ardal' Archddiaconiaeth Ynys Môn. Yn fab i ffermwr, mae gan Llew angerdd am 'Weinidogaeth Wledig' ar ôl gwasanaethu fel 'Eiriolwr Bywyd Gwledig' i Esgobaeth Bangor ers 2020.

Mae Llew hefyd yn ymwneud yn helaeth â'r elusen Tir Dewi fel Ymddiriedolwr a Gwirfoddolwr, gan gynnig cymorth a chefnogaeth i Deuluoedd Ffermio a'u dibynyddion ledled Cymru Wledig.

~~~
Revd Llewelyn Moules Jones is one of six senior clerics of the Church in Wales who have been appointed as Honorary Chaplains to His Majesty The King.

Their appointment has been marked by a special service at The Chapel Royal in St James’s Palace as part of the celebrations of St David, the Patron Saint of Wales. This is the first time clerics of the Church in Wales have been appointed.

Ynys Môn born and bred , Llew Moules Jones is currently the M A Leader of Bro Dwynwen and also 'Area Dean' for the Archdeaconry of Anglesey. A Farmer’s son, Llew has a passion for 'Rural Ministry ' having served as 'Rural Life Advocate' for the Diocese of Bangor since 2020. Llew is also heavily involved with the charity Tir Dewi both as a Trustee and Volunteer ,offering help and support to Farming Families and their dependents across Rural Wales.

https://bangor.eglwysyngnghymru.org.uk/newyddion/2026/03/13/penodi-caplaniaid-anrhydeddus-y-brenin/

11/02/2026

Address

Church Street
Church Street

Alerts

Be the first to know and let us send you an email when Bro Cwyfan posts news and promotions. Your email address will not be used for any other purpose, and you can unsubscribe at any time.

Contact The Place Of Worship

Send a message to Bro Cwyfan:

Share