27/09/2022
Gweddi'r Wythnos - Edwin Hughes
Testun: Salm 122:1 o’r Beibl Cymraeg Newydd
“Yr oeddwn yn llawen pan ddywedasant wrthyf ‘Gadewch i ni fynd i dŷ’r Arglwydd’”
Mae cynulleidfa capel Pencaenewydd, ble’r oeddwn i’n mynd pan yn hogyn, yn yr 1950au, yn dathlu 200 mlwyddiant yr adeilad eleni.
Awn yn ôl i’r ddeunawfed ganrif am ychydig, pryd y dechreuodd y DEFFROAD MAWR. Yn ôl i hanes Howel Harris, yn arbennig, am mai ef oedd yn bennaf gyfrifol am ledaenu’r Genhadaeth hon i Ogledd Cymru. Daeth i Ogledd Cymru am y troeon cyntaf yn 1738 ac 1739, ond dim ond i Lanidloes, Llandinam, Caersws a Llanbrynmair.
Daeth yn ôl i’r Gogledd yn 1740 pryd yr aeth cyn belled â Llanuwchllyn a’r Bala ac y1741, pryd yr aeth i Ben Llŷn. Nid oedd croeso iddo yn y Gogledd, a phenderfynodd beidio â mynd i’r Gogledd ar ôl hynny. Gyda’i allu mawr fel trefnydd,trefnodd mai Cynghorwyr eraill aeth i’r Gogledd yn ei le wedyn – Jenkin Morgan, Benjamin Thomas a David Jenkins, i enwi rhai – a bu llwyddiant ar eu gwaith.
Mae’r gwaith a wnaed yn ystod y ddeunawfed ganrif i sefydlu seiadau a chodi Tai Cwrdd, fel y gelwid capeli yr adeg honno, yn angrhedadwy, Erbyn 1813 roedd tua 300 o Dai Cwrdd wedi eu hadeiladu a’r rheiny i’w cael ym mhob rhan o Gymru.
Mae ‘tri dyn yn cael eu henwi fel y rhai oedd yn gyfrifol am wthio’r cwch i’r dŵr ym Mhencaenewydd, sef Isaac Morris, Isaac Jones a Robert Williams. Buont yn cynnal Seiad am gyfnod, ac o’r Seiat honno llwyddwyd i adeiladu capel yn 1822.Tyfodd y gynulleidfa dros y blynyddoedd gan gyrraedd i dros 140 un flwyddyn.
Roedd testun y Myfyrdod hwn yn ddigon derbyniol gen i bob amser. Dyma i chi rhai o’r pethau yr ydw i’n ei gofio fel plentyn yn mynd i gapel Pencaenewydd. Yr Ysgol Sul. Gwasanaeth y plant ar fore Dydd Llun Diolchgarwch a Cyfarfod Gweddi Pnawn a Nos. Drama’r Nadolig, Parti Nadolig, a Siôn Corn yn galw, a mynd am drip yr Ysgol Sul i Rhyl.
Roedden ni’n gwneud yr Arholiad Sirol hefyd a doedd mynd i’r Capel ar Ddydd Sadwrn i eistedd yr arholiad ddim yn fwrn chwaith, achos os oedden ni’n gwneud yn ddigon da roedd ‘na wobr i’w chael yn Sasiwn y Plant un ai yn Penmount neu Capel Salem ym Mwllheli. Tocyn llyfr oedd y wobr a roedden ni’n cael mynd i’r dre i ddewis llyfr.
Roedden ni’n mynd i’r Band o Hôp erbyn tua 5.30 o’r gloch ambell i noson yn y gaeaf, i ymarfer erbyn y ddrama Nadolig, a roeddwn i a’m brodyr yn cael hwyl fawr wrth gerdded o’n cartref i Bencae wedi iddi dywyllu, yn cicio pedolau’n esgidiau ar y ffordd nes yr oedd y gwreichion yn tasgu i bob man. Erbyn i ni gyrraedd y pentre’ roedd tyrfa ohonom yn cyrraedd efo’n gilydd wrth i deuluoedd eraill ymuno efo ni ar y ffordd. Rwyf wedi cofnodi’r atgofion hyn oherwydd mae’n dangos, rwy’n credu, fod yr hyn oedd yn cael ei drefnu ar gyfer plant a ieuenctid gan swyddogion y capel ar y pryd yn ddigonol ac yn llwyddiannus. Cyfnod gwahanol iawn i’n hamser ni heddiw, rwy’n cyfaddef.
Ond beth fydd DYFODOL y capel, tybed, a chapeli eraill ar hyd a lled y wlad?
Pa ddarpariaeth sy’n mynd i sicrhau y bydd capeli, fel Capel Pencaenewydd, yn dal i fod yn Dŷ’r Arglwydd ymhell i’r dyfodol, yn dal i wneud y gwaith y bwriadwyd iddo ei wneud ddau can mlynedd yn ôl? Gweddi. “O Dduw, dyro iechyd,nerth a gweledigaeth i Arweinwyr yr Achos ym Mhencaenewydd, a phob Achos arall drwy’r wlad i wneud eu gwaith yn llwyddiannus i’r dyfodol. Amen.